Gweledigaeth ac Amcanion /Our Vision and Aims
Our Mission
Cofia Ddysgu Byw
Ein Gweledigaeth ac Amcanion / Our Vision and Aims
Mae Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn gymuned ddiogel ac ysbrydoledig lle caiff pob plentyn ei g/werthfawrogi am ei ph/bersonoliaeth, ei sgiliau a’i ddoniau unigol. Bydd y plant yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial llawn mewn amgylchedd dysgu gofalgar, cynhwysol ac arloesol. Mae lles wrth galon popeth a wnawn.
Rydym am i’n plant, teuluoedd a staff gael atgofion hapus o’u hamser gyda ni a chael eu hysgogi a’u hannog i wneud y gorau o ddysgu wrth iddynt deithio trwy fywyd.
Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd is a safe and inspiring community in which all children are valued for their individual personalities, skills and talents. They will have the opportunity to achieve their full potential in a caring, inclusive and innovative learning environment. Wellbeing is at the very heart of everything we do.
We want our children, families and staff to have happy memories of their time with us and to be motivated and enthused at the prospect of making the most of learning as they progress through life.
Ein Gwerthoedd/Our Values
Amcanion yr Ysgol
- Datblygu pob plentyn hyd eithaf ei allu yn gorfforol, yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn addysgiadol.
- Sicrhau cyfle cyfartal i dderbyn addysg o ansawdd uchel a gwerthfawrogi cyfraniad pawb.
- Datblygu disgyblion sydd ag agwedd gadarnhaol at ysgol a dysgu parch tuag at anghenion eu cyd ddisgyblion.
- Creu awyrgylch sydd yn hybu annibynniaeth a hyder o fewn ein disgyblion. Awyrgylch sydd yn symbylu dysgu.
- Meithrin Cymry Cymraeg cyflawn sydd yn falch o'u Cymreictod ac hefyd yn gwerthfawrogi dwyieithrwydd.
- Datblygu disgyblion sydd yn parchu rheolau o fewn yr ysgol a'r gymdeithas.